Dylech ddarllen yr hysbysiad hwn yn ofalus ac yna clicio'r ddolen yn i barhau â'r broses archebu. Mae'r manylion cyswllt ff ô n ar y dudalen hon ar gyfer ymholiadau Diogelu Data YN UNIG ac NI ELLIR eu defnyddio i archebu prawf theori.
Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yw’r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol y mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn ei chasglu. Asiantaeth weithredol i’r DfT yw'r DSA ac, fel y cyfryw, mae'n rheoli yn uniongyrchol yr holl wybodaeth y bydd yn ei chasglu a'i phrosesu.
At ddibenion gweinyddu a chynnal amrywiaeth o Brofion Theori Gyrru, bydd Pearson yn gweithredu fel proseswyr data i'r DSA ac mae ganddynt awdurdod i gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol ar ran DSA.
Fe fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn bennaf i gofrestru ymgeiswyr, i gadarnhau hunaniaeth a hawl, i ddarparu profion (gan gynnwys y canlyniadau), ac i gael gwybodaeth rheoli ystadegol, gan gynnwys dadansoddiadau i asesu effeithiolrwydd patrymau traffig, mentrau diogelwch a materion eraill ynghylch trafnidiaeth i wella'r gwasanaeth i’r cwsmer a diogelwch ar y ffyrdd. Bydd gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i ddarparu cysylltiadau i ddilysu a galluogi Awdurdod Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau’r DU (DVLA) i ddarparu trwyddedau cyfreithlon. Trosglwyddir y wybodaeth bersonol a’i phrosesu gan Pearson yn Unol Daleithiau America. Byddant yn cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 trwy fframwaith ‘Safe Harbor' Adran Fasnach yr U.D.
Ni wneir unrhyw ddatgeliadau pellach gan y DSA na Pearson oni bai eu bod yn unol â'r gyfraith, i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Rhestrir datgeliadau o'r fath dan DfT, yng Nghofrestr Gyhoeddus Rheolwyr Data y mae Comisiynydd Gwybodaeth y DU yn gyfrifol amdani. Z7122992 yw rhif Cofrestru’r DfT.
I gael copi o’r hysbysiad yma neu wybodaeth bellach ynghylch prosesu gwybodaeth bersonol gan Pearson ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrru, ysgrifennwch at y:
Data Protection Compliance Manager (Information Security Team)
Driving Standards Agency
Stanley House
56 Talbot Street
Nottingham
NG1 5GU
Rhif ffôn 01159 012706 neu 01159 012729 (Mae'r rhifau hyn ar gyfer ymholiadau Diogelu Data YN UNIG)
E-bost:
Gwefan:
I gael mwy o wybodaeth ynghylch Deddf Diogelu Data y DU 1998, ewch i