Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yw rheolwr data yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Asiantaeth weithredol yr ASG (DSA)yw’r AD (DfT) ac o’r herwydd mae’n ymdrin â’r holl wybodaeth bersonol y mae’n ei gasglu a’i brosesu.
Caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu yn bennaf er mwyn cofrestru ymgeiswyr, casglu taliadau, cadarnhau pwy ydych chi a’ch hawl, cynnal profion (gan gynnwys canlyniadau), a chreu gwybodaeth rheoli ystadegau , gan gynnwys dadansoddi ac ymchwilio er mwyn gwell diogelwch ar y ffyrdd a gwasanaeth a boddhad cwsmeriaid.
Rhaid i’r ASG (DSA) sicrhau onestrwydd y prawf gyrru a’r Gofrestr o Hyfforddwyr Gyrru Cymwys; efallai y caiff eich data personol ei brosesu yn ystod archwiliadau yr ASG (DSA) i dwyll a chywirdeb. Gall yr ASG (DSA) ddefnyddio’r data personol rydych wedi ei roi er mwyn atal neu ddatgelu trosedd a dal neu erlyn drwgweithredwyr.
At hyn, defnyddir gwybodaeth bersonol i greu dolenni cyswllt ar gyfer dilysu a dosbarthu trwyddedau gyrru cyfreithiol drwy Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau y DU (DVLA).
Caiff manylion eich cardiau credyd a debyd cyflwyno drwy weinydd diogel sydd yn defnyddio dulliau amgodio safonol. Cedwir manylion eich cardiau credyd am hyd at 7 mlynedd yn ôl gofynion cyfrifo. Ni chaiff y wybodaeth ei defnyddio at unrhyw bwrpas ar wahân i brosesu taliadau, cyfrifyddiaeth, atal neu ddatgelu trosedd a dal neu erlyn drwgweithredwyr.
Ni fyddwn yn datgelu data personol i na’i rannu gyda thrydydd person oni bai ei fod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Gall hyn gynnwys, er nad yw wedi ei gyfyngu i, datgelu i’r heddlu, Tollau Tramor a Chartref EM a llywodraethau lleol.
Gallwch gysylltu â ni os am holi am ddiogelu data drwy e-bostio
Am ragor o wybodaeth gyffredinol ewch i