Mae'r gwasanaeth ar-lein hwn yn galluogi unigolion i wneud cais am drwydded yrru dros dro, rhoi gwybod i DVLA am newidiadau i amgylchiadau, a gweld eu cofnod ar-lein. Yn y dyfodol, efallai yr ychwanegir gwasanaethau a nodweddion ychwanegol.
Gallwch gofrestru fel cwsmer ar gyfer y gwasanaeth ar-lein drwy ddefnyddio'r wefan hon.
Caiff y manylion a roddwch ar gyfer cofrestru eu gwirio gan drydydd parti ar ran DVLA er mwyn dilysu pwy ydych chi. Caiff rhywfaint o'r manylion hyn eu storio ar systemau DVLA hefyd i brosesu eich cais am drwydded yrru. Gweler y datganiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Os byddwch yn rhoi cyfeiriad e-bost, caiff ei storio'n ddiogel hefyd ar system Porth y Llywodraeth, yn unol â'u polisi preifatrwydd. Gallwch weld y polisi preifatrwydd hwn ar dudalennau gwe Porth y Llywodraeth. Os rhoddwch gyfeiriad e-bost gall Porth y Llywodraeth ei ddefnyddio i gysylltu â chi ac anfon negeseuon ymlaen atoch mewn perthynas â gwasanaethau ar-lein eraill y Llywodraeth os ydych yn dewis cofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Defnyddir eich rhif adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair i gadarnhau pwy ydych chi a dilysu'r wybodaeth a anfonwch. Cânt eu storio'n ddiogel ar Borth y Llywodraeth ac ni fyddant ar gael i Adrannau'r Llywodraeth.
Mae Porth y Llywodraeth yn defnyddio'r cyfeiriad post a gofrestrwyd ar systemau DVLA i anfon cadarnhad atoch ynghylch eich rhif adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair os ydych chi'n gofyn am iddynt gael eu hail-anfon drwy ddefnyddio'r wefan hon. Ar ôl i'r Porth anfon y wybodaeth hon, caiff eich cyfeiriad ei ddileu o Borth y Llywodraeth.
Does dim modd dadgofrestru o'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch gyflwyno'ch hun i'r wefan hon drwy ddefnyddio eich rhif adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Caiff eich rhif adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair wedi'u hamgryptio eu hanfon ymlaen at Borth y Llywodraeth i'w dilysu.
Rhaid i chi gadw'ch cyfrinair yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser. Gallwch newid eich cyfrinair ar y wefan hon neu dudalennau gwe Porth y Llywodraeth.
Os ydych chi'n anghofio eich Enw Defnyddiwr, gallwch ofyn am iddo gael ei ail-anfon atoch drwy'r post ar y wefan hon. Os ydych chi'n anghofio eich cyfrinair, gallwch ofyn am gael un newydd drwy'r post ar y wefan hon. Os ydych chi'n colli eich Enw Defnyddiwr, bydd angen i chi gysylltu â'r ddesg gymorth (darperir manylion ar y wefan hon).
Os oes angen ffi ar gyfer eich cais, bydd angen i chi wneud taliad electronig drwy ddefnyddio un o'r cardiau credyd/debyd canlynol:
Caiff gwybodaeth o gerdyn credyd/debyd ei throsglwyddo a'i storio yn unol â'n datganiad diogelwch a'n datganiad preifatrwydd.
Mae'n bosibl y byddwn yn diwygio'r telerau ac amodau hyn wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau. Drwy dderbyn y telerau a'r amodau hyn, rydych chi'n cytuno y cawn:
Gallwch weld y telerau a'r amodau cyfredol unrhyw adeg drwy glicio 'Telerau ac amodau' ar waelod y dudalen cyflwyno'ch hun.
Gwna DVLA bob ymdrech i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth sydd yn y cyhoeddiadau a'r gwasanaethau a gaiff eu storio, eu gwasanaethu a'u defnyddio gan y gwasanaeth ar-lein hwn, ond ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth hon yn lle cyngor ffurfiol gan DVLA. Darperir y deunyddiau ar y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid cyngor mohonynt.
Ni fydd DVLA, ei weithwyr na'i asiantau yn gyfrifol am unrhyw golled sy'n deillio, ym mha ffordd bynnag, o ddefnyddio neu ddibynnu ar y wybodaeth hon. Ni fydd DVLA yn atebol am unrhyw ddifrod arbennig, damweiniol, anuniongyrchol nac ôl-ddilynol o unrhyw fath, gan gynnwys y rheini sy'n deillio o golli defnydd, data nac elw ond nid y rhain yn unig, sut bynnag y byddai'r difrod hwn yn codi.
Drwy ddarparu dolenni at safleoedd eraill, nid yw DVLA yn gwarantu, yn cymeradwyo nac yn cadarnhau'r wybodaeth na'r cynnyrch sydd ar gael yn y safleoedd hyn, ac nid yw dolen o reidrwydd yn golygu bod gan DVLA unrhyw gydgysylltiad â'r safle na'i fod yn ei gymeradwyo.
Mae hon yn wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig a ddiogelir. Mae mynediad heb awdurdod neu addasu heb awdurdod yn droseddau dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990; mae hi felly'n anghyfreithlon mynd ati'n fwriadol i ddifrodi'r safle neu unrhyw un o gyfleusterau electronig DVLA neu ddata drwy drosglwyddo unrhyw raglen, gwybodaeth, cod neu orchymyn.
Caiff y Telerau a'r Amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a dim ond yn llysoedd Lloegr y caiff unrhyw anghydfod ei ddatrys.