Mae'r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn dibynnu ar y gwasanaethau ar-lein y gofynnwch amdanynt. Defnyddiwn y wybodaeth a roddwch i ni i fwrw ymlaen ag unrhyw fusnes trwyddedu gyrwyr a cherbydau. Gallwn archwilio'r wybodaeth a roddwch i ni i'w chymharu â'r wybodaeth sydd eisoes gennym (er enghraifft, gallwn ofyn i chi am eich enw, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad er mwyn i ni allu dod o hyd i'ch cofnod).
Gallwn hefyd gael gwybodaeth amdanoch gan rai trydydd partïon, neu roi gwybodaeth iddynt er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gywir. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth ar gyfer:
Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch i unrhyw un y tu allan i DVLA oni bai fod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny neu oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni.
Nid yw ein gwefan yn galluogi ein hymwelwyr i gyfathrebu ag ymwelwyr eraill na phostio gwybodaeth y gall eraill gael mynediad ati. DVLA yw'r Rheolwr Data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data. Cewch ddefnyddio'r wefan hon i weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
Rydym yn casglu dau fath gwahanol o wybodaeth gan ymwelwyr â'r wefan hon: sylwadau (drwy gael ymwelwyr i lenwi holiaduron adborth neu drwy dderbyn negeseuon e-bost ganddynt) a gwybodaeth am y defnydd o'r safle.
Pan rydym yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn rhwydd, defnyddiol ac yn ddibynadwy. Lle'r cynigwyd y gwasanaethau ar y rhyngrwyd, gall hyn golygu gosod darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffon symudol. Mae hyn yn cynnwys ffeiliau bach ac enwi'r yn gwcis. Ni ellir eu defnyddio i adnabod chi yn bersonol.
Mae'r darnau o wybodaeth yn cael eu defnyddio i wella ein gwasanaethau i chi, er engraifft:
Gallwch reoli'r ffeiliau bach hyn eich hun a dysgu mwy amdanynt ar 'Cwcis Porwr y Rhyngrwyd - beth ydynt a sut fedrau eu rheoli'.
Yn gyfredol yr unig cwcis ar ein Gwasanaeth Trwyddedu Gyrru Ar-lein yw 'cwci sesiwn' hynny yw ffeil cwci dros dro a geir eu dileu pan wnewch gau eich porwr.
Math o gwci: Sesiwn
Manteision: Ar ôl cofnodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair, ni fydd angen i chi wneud hynny am bob tudalen we a geisiwch o'm gwasanaeth.
Pan wnewch ail ddechrau eich porwr a dychwelyd i'r safle a greodd y cwci, ni fydd y wefan yn eich adnabod. Bydd angen i chi gofnodi eto (os oes angen cofnodi) neu ddewis eich hoffterau/themâu eto os ydy'r safle yn defnyddio'r nodweddion hyn. Fe gynhyrchir sesiwn cwci newydd, a fydd hyn yn storio gwybodaeth am eich pori ac arhosi'r yn fyw tan i chi adael y safle a chau eich porwr.
Mae DVLA yn rhan o'r Adran Drafnidiaeth (DfT) ynghyd a'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA), yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) a'r Asiantaeth Tystysgrifio Cerbydau (VCA).
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cynnwys y fersiwn diweddaraf ar y dudalen hon. Drwy gadw golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd, bydd modd i chi wybod bob amser pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, sut y byddwn yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phobl eraill.