Pan fyddwch yn cyflwyno'ch hun i'r wefan, caiff yr holl wybodaeth rydych chi'n ei hanfon a'i derbyn ei throsglwyddo drwy gysylltiad Haen Socedi Diogel. Mae Haen Socedi Diogel yn gweithredu fel dolen ddiogel rhwng eich porwr chi a'n gweinydd ni. Defnyddiwn Haen Socedi Diogel gydag amgryptiad 128-did, sef safon gydnabyddedig y diwydiant.
Mae Haen Socedi Diogel yn amgryptio eich gwybodaeth bersonol cyn iddi adael eich cyfrifiadur ac mae'n gwarantu:
Byddwch bob amser yn gwybod pan fyddwch yn defnyddio cysylltiad diogel oherwydd bydd eicon clo clap yn ymddangos ar far statws eich porwr a bydd y cyfeiriad yn dechrau gyda 'https'. Yn dibynnu ar osodiadau eich porwr, gall ffenestr naid ymddangos i roi gwybod i chi eich bod ar fin agor tudalen wedi'i diogelu.
Os ydych chi'n anghofio ymadael neu os bydd eich cyfrifiadur yn segur am gyfnod yn ystod sesiwn, byddwch yn ymadael â'r system yn awtomatig. Nod hyn ydy lleihau'r perygl o rywun arall yn defnyddio eich sesiwn ar gyfrifiadur a rennir. Fodd bynnag, dylech hefyd gofio ymadael ar ddiwedd eich sesiwn ar-lein a chau'r porwr.
Defnyddiwn sawl haen o ddiogelwch - am resymau amlwg, ni allwn ddatgelu'r cyfan, ond defnyddir y canlynol yn nodweddiadol:
Rydym yn defnyddio Enwau Defnyddwyr a chyfrineiriau i sicrhau ein bod yn delio gyda chi ac nid rhywun sy'n honni mai chi ydynt.
Pan fyddwch yn cofrestru â'r wefan hon, cewch rif adnabod defnyddiwr (a ddarperir gan Borth y Llywodraeth) a chyfrinair (a ddewisir gennych chi). Ar ôl hynny chewch chi ddim gweld eich data heb roi eich rhif adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair. Rydym yn gorfodi polisi 'cyfrinair cryf'. Gall rhai cyfrineiriau fod yn hawdd i dwyllwyr eu dyfalu, felly byddwn yn dweud wrthych os na fydd y cyfrinair a ddewiswch yn ddigon 'cryf'.
Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i gyflwyno'ch hun, chewch chi ddim defnyddio eich rhif adnabod defnyddiwr i ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein, rhag ofn bod rhywun arall yn ceisio cael gafael ar eich manylion. Os yw hyn yn digwydd, rhoddir cyfarwyddiadau i chi ynghylch yr hyn y dylech ei wneud.
Mae ambell i beth syml y gallwch ei wneud i sicrhau cymaint o ddiogelwch â phosibl gyda phrin dim ymdrech. Drwy ddilyn y rhain byddwch yn gwella diogelwch eich cyfrifiadur personol, nid yn unig pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein ond pan fyddwch yn defnyddio'r rhyngrwyd yn gyffredinol.
Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys yr holl gamau y gallwch eu cymryd, ond mae'n ddechrau gwych. Maent yr un mor berthnasol i berchnogion busnes ac unigolion preifat.
O bryd i'w gilydd deuir o hyd i wendidau yn y rhaglenni hyn. Bydd y cyhoeddwr wedyn yn rhyddhau 'cywiriad' neu 'ddiweddariad diogelwch' i gywiro'r gwendid hwn. Mae awduron firysau a hacwyr yn ymelwa ar y gwendidau hyn yn rheolaidd er mwyn cael mynediad heb awdurdod i'r cyfrifiaduron personol hynny nad ydynt wedi'u diweddaru. I chwilio am ddiweddariadau dylech edrych ar wefan y cyhoeddwr, fel rheol mae'r rhain ar gael yn eu hadran Dadlwytho, neu defnyddiwch nodwedd diweddaru'n awtomatig eich system gweithredu.
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio meddalwedd gwrth-firws ond er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol dylai'r meddalwedd sicrhau ei fod yn meddu ar y ffeiliau diffiniadau firysau diweddaraf bob tro rydych chi'n cysylltu â'r rhyngrwyd. (Os nad ydych chi'n siŵr sut y gellir ffurfweddu hyn, dylech gyfeirio at adran Help y meddalwedd.)
Mae modd cael diogelwch gwrth-firws yn rhad ac am ddim hefyd. Bydd rhoi'r geiriau 'free anti-virus' mewn chwilotwr yn rhoi rhestr o'r cynnyrch mwyaf poblogaidd.
Mae mur cadarn yn rhaglen fach arall sy'n helpu i ddiogelu eich cyfrifiadur a'i gynnwys rhag dieithriad ar y rhyngrwyd. Ar ôl ei osod, bydd yn atal traffig heb awdurdod rhag symud yn ôl ac ymlaen ar eich cyfrifiadur personol. Rhowch y geiriau 'personal firewall' mewn chwilotwr i gael gwybodaeth am gynnyrch.
Mae'r e-bost yn ffordd wych o gyfathrebu, ond yn anffodus mae twyllwyr hefyd yn defnyddio'r cyfrwng i dargedu dioddefwyr.
Ni fyddwn byth yn gofyn i chi gadarnhau eich gwybodaeth bersonol, eich Enw Defnyddiwr ac/neu eich cyfrinair dros yr e-bost.
Peidiwch ag agor negeseuon e-bost gan anfonwyr anhysbys. Os ydych yn ansicr ynghylch ffynhonnell neges e-bost, er enghraifft os nad ydych yn adnabod yr anfonwr, fe'ch cynghorir i ddileu'r neges. Defnyddir negeseuon e-bost yn aml i ledaenu firysau, neu lwytho meddalwedd i lawr a fydd yn golygu y gall pobl gael mynediad heb awdurdod at eich cyfrifiadur personol. Fe'ch cynghorir i beidio byth ag agor atodiadau annisgwyl a pheidio byth â dilyn dolenni at safleoedd anghyfarwydd ar y rhyngrwyd.
Agorwch ein gwefan drwy ddefnyddio'r dolenni ar wefan DVLA neu hafan moduro Cross & Stitch yn unig; gallai unrhyw ddolenni eraill fynd â chi i wefannau ffug a allai edrych union yr un fath â'n rhai ni.
Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un yn eich gweld yn teipio eich cyfrinair.
Cofiwch ymadael a chau eich porwr ar ôl i chi orffen eich gweithgaredd ar-lein.
Efallai fod 'awtogwblhau' wedi'i alluogi ar eich porwr. Golyga hyn y bydd eich cyfrifiadur yn storio ac yn cofio data rydych chi wedi'u nodi yn y gorffennol. Fe ddylech chi sicrhau bod awtogwblhau wedi'i ddiffodd er mwyn diogelu'ch data. Gallwch chi hefyd glirio hanes y data sydd wedi'u cadw yn y gorffennol. Cyfeiriwch at help eich porwr i gael manylion ynglŷn â sut i wneud hyn.