I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn byddwch angen eich rhif cyfeirnod gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, rhif yswiriant gwladol yr ymadawedig, rhif trwydded gyrru a rhif pasbort.
Gofynnir i chi am y perthynas agosaf (perthynas agosaf trwy waed neu briodas) a'r person sy'n delio â'r ystâd (y person sy'n delio â'u ty, eiddo ac arian). Byddwch angen eu:
- Enw, cyfeiriad a rhif ffôn.
- Caniatâd i ddarparu eu manylion.
Efallai bydd y sefydliadau rydym yn eu hysbysu yn cysylltu â'r bobl hyn.